21st July 2020
Mae e’n gofyn cwestiynau allweddol ynglŷn â’r gwaith adferol brys a gwyrdd sydd ei angen yn y cyfnod sy’n arwain at etholiadau’r Senedd ym Mai 2021, ac yn galw ar Gymru i gipio’r foment dyngedfennol hon i ddarparu ar gyfer ac i weithredu ei bolisi blaengar, er mwyn sicrhau y gall y genedl gynhyrchu bwyd iachus a fforddadwy ar ffermydd cynaliadwy mewn tirwedd a reolir er lles anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r adroddiad yn tynnu oddi wrth drafodaethau ein hymholiad gyda phobl ar draws y genedl ac yn dynodi’r gwaith anhygoel sydd eisioes ar droed. Mae’r straeon ysbrydoledig hyn yn dangos ymchwydd o egni ac archwaeth am ddatblygu ffyrdd newydd o ddod o hyd i fwyd ac yn ei dyfu, ynghŷd â gwerthfawrogiad newydd o rôl cefn gwlad.
Un enghraifft yw stori’r Felin, melin flawd deuluol a ddefnyddiai ei chadwyn gyflenwi leol i addasu’n sydyn i’r tŵf mewn pobi gartref yn ystod y cyfnod clo, gan ei galluogi i ateb i’r galw oddi wrth gwsmeriaid ledled y wlad pan nad oedd modd i felinau mwy wneud hynny.
Mae’r stori hon yn un o lawer yn yr adroddiad sy’n pwysleisio’r angen dybryd i gyflymu ar frys weithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru er mwyn cefnogi’r bobl sydd eisioes yn gweithio tuag at adferiad gwyrdd.
Rydym hefyd yn cynnig rhaglen waith uchelgeisiol tair blynedd fel cam nesaf yn ein hymholiad yng Nghymru, a fydd yn cynull ystod o gyrff cyhoeddus, busnesau, a grwpiau gweithredu a chymunedol er mwyn darparu pedwar prif nod:
Mae Sue Pritchard, ein Prif Weithredydd, wedi croesawi’r ymholiad:
Ar draws Gymru, mae pawb yn adnabod rhywun sydd eisioes yn gweithio i gynnal ein cymunedau ac yn gwneud newidiadau a fydd yn adeiladu dyfodol gwell – siopa dros gymdogion, dod o hyd i ffyrdd newydd i gyflenwi cynnyrch fferm i garreg ein drysau, coginio mwy a gwastraffu llai, mwynhau amser yng nghefn gwlad. Ond yn rhy aml gall hyn deimlo fel gwaith caled, pan ddylai polisiau ei gwneud hi’n haws i wneud y peth iawn. Mae darganfyddiadau Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad yn dangos yn glir na fu erioed y fath angen am bolisi beiddgar a’r fframweithiau cyfreithiol hyn. Yr her yn awr yw i weithredu’r ddeddfwriaeth ar lawr gwlad, fel gall y newidiadau brys sydd eu hangen i ganiatau ein cymunedau i ail-adfer ddigwydd ar gyflymder.”
Myfyriai hefyd Cadeirydd ein Hymchwiliad Cymru, Jane Davidson:
“Yng Nghymru mae gennym gyfle penodol oherwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Fel Cadeirydd Ymchwiliad Cymru, rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag ystod eang o bartneriaid i feithrin y newid brys sydd ei angen i alluogi Cymru i gynhyrchu bwyd iachus a fforddadwy ar ffermydd cynaliadwy mewn tirwedd a reolir er lles anghenion cenedlaethau’r dyfodol.”
Lansir yr adroddiad arlein yng Gŵyl Aferiad Gwyrdd Cymru, 21ain Gorffennaf, 2-3 yh. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â digwyddiad y panel lansio gyda Jane Davidson, sy’n arwain gwaith y Comisiwn Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad yng Nghymru, yn y Gadair. Ymhlith y panelyddion fydd Syr David Henshaw (Cyfoeth Naturiol Cymru), Patrick Holden (Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy), Ann Jones (Sefydliad y Merched yng Nghymru) a Pamela Mason (Maethegydd Iechyd Cyhoeddus).
Nid oes rhaid cofrestru o flaen llaw – bydd y ddolen fideo fyw yn cael ei phostio ar y dudalen hon ddydd Mawrth.
Lawrlwythwch yr adroddiad llawn Canllaw Maes Cymru ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol (English version)