Canllaw Maes i Genedlaethau’r Dyfodol

21st July 2020

Mae Canllaw Maes Cymru i Genedlaethau’r Dyfodol yn galw ar y wlad i gipio’r foment dyngedfennol hon i ddarparu ar gyfer a gweithredu ei agenda polisi blaengar.

Mae’r adroddiad yn tynnu oddi wrth drafodaethau ein hymholiad gyda phobl ar draws y genedl ac yn dynodi’r gwaith anhygoel sydd eisioes ar droed. Mae’r straeon ysbrydoledig hyn yn dangos ymchwydd o egni ac archwaeth am ddatblygu ffyrdd newydd o ddod o hyd i fwyd ac yn ei dyfu, ynghŷd â gwerthfawrogiad newydd o rôl cefn gwlad. Maent yn pwysleisio’r angen dybryd i gyflymu ar frys weithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru er mwyn cefnogi’r bobl sydd eisioes yn gweithio tuag at adferiad gwyrdd.

Rydym hefyd yn cynnig rhaglen waith uchelgeisiol tair blynedd fel cam nesaf yn ein hymholiad yng Nghymru, a fydd yn cynull ystod o gyrff cyhoeddus, busnesau, a grwpiau gweithredu a chymunedol er mwyn darparu pedwar prif nod:

  • Sicrhau fod yr angen am systemau bwyd teg ac iachus yn cael eu hintegreiddio i’r broses o feddwl a phenderfynu am lesiant, defnydd tir, ac adnoddau
  • Ymchwilio i’r potensial ar gyfer amaethecoleg yng Nghymru
  • Ymholi i weld a alinir gwariant cyhoeddus yn gydlynol er mwyn cyrchu nodau polsi Cymreig
  • Esbonio’r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer trosglwyddiad cyfiawn i systemau bwyd a ffermio mwy cynaliadwy ac economiau gwledig ffyniannus.